TYSTIOLAETH YSGRIFENEDIG I YMCHWILIAD Y PWYLLGOR PLANT A PHOBL IFANC I BRESENOLDEB AC YMDDYGIAD

 

 

 

CYFLWYNIAD A CHEFNDIR

 

1.    Mae’r papur hwn yn rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Bresenoldeb ac Ymddygiad cyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau ymddangos ger bron y Pwyllgor ar 13 Mawrth 2013.

 

2.    Mae’r papur yn nodi’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn a’r datblygiadau wrth symud ymlaen mewn perthynas â pholisïau Llywodraeth Cymru ar bresenoldeb ac ymddygiad ers cyhoeddi’r Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb yn 2008.

 

 

YR ADOLYGIAD CENEDLAETHOL O YMDDYGIAD A PHRESENOLDEB

 

Cynllun Gweithredu Ymddygiad a Phresenoldeb 2009-2011

 

3.    Cynhaliwyd yr Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb (ACYP) gan grŵp annibynnol o dan gadeiryddiaeth yr Athro Ken Reid. Roedd adroddiad yr adolygiad yn cynnwys 19 o argymhellion craidd a 73 o argymhellion ategol. Roedd yr argymhellion yn cwmpasu amrywiaeth eang iawn o faterion a nodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r ACYP yn y Cynllun Gweithredu Ymddygiad a Phresenoldeb a lansiwyd yn 2009.

 

4.    Roedd 45 o gamau gweithredu yn y Cynllun, i’w cyflawni yn y byrdymor, yn y tymor canolig ac yn yr hirdymor. Hyd yn hyn, cwblhawyd 30 o’r camau gweithredu, mae 10 ohonynt yn mynd rhagddynt ac mae pump ohonynt wedi esblygu o ganlyniad i ddatblygiadau polisi ehangach. Mae’r uchafbwyntiau allweddol i’w nodi fel a ganlyn:

 

 

5.    Mae Atodiad A yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr holl gamau gweithredu gwreiddiol a nodwyd yn y Cynllun.

 

 

 

 

 

 

CYNLLUN GWEITHREDU 20 PWYNT I WELLA SAFONAU YSGOLION

 

 

Cynllun Gweithredu Ymddygiad a Phresenoldeb newydd 2011-2013

 

6.    Bu nifer o ddatblygiadau pwysig ers yr ACYP ac ers lansio’r Cynllun Gweithredu gwreiddiol. Ym mis Chwefror 2011, nododd y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ei 20 blaenoriaeth ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Gwnaed hyn mewn ymateb i dystiolaeth o nifer o ffynonellau bod ysgolion yng Nghymru yn tangyflawni, gan gynnwys y dystiolaeth yng nghanlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) ar gyfer 2009.

 

7.    Roedd presenoldeb ac ymddygiad yn rhan o 20 blaenoriaeth y Gweinidog; yn benodol yr angen i adfywio’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’r maes polisi hwn a rhoi ffocws newydd iddo. Roedd y rhan fwyaf o’r cynllun gweithredu gwreiddiol wedi canolbwyntio ar ddatblygu canllawiau ‘sut i’ yn nodi arfer da. Wrth symud ymlaen, roedd angen i unrhyw gynllun newydd ganolbwyntio ar ‘gyflwyno a chyflawni’ yr arfer da a gydnabuwyd. I’r perwyl hwn, targedodd y Cynllun Gweithredu Ymddygiad a Phresenoldeb newydd weithgarwch mewn tri maes penodol:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

EFFAITH Y CYNLLUN NEWYDD

 

8.    Mae Atodiad B yn nodi cynnydd manylach yn erbyn yr holl gamau gweithredu a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu newydd. I grynhoi:

 

Ar Bresenoldeb

 

9.    Cyflwynwyd y system ar gyfer bandio ysgolion uwchradd yn 2011. Mae’r system yn defnyddio gwybodaeth am berfformiad mewn arholiadau a data presenoldeb, gan ystyried canlyniadau, cynnydd a pherfformiad o fewn cyd-destun economaidd-gymdeithasol, i roi ysgolion mewn un o bum band. Mae ysgolion Band 1 yn perfformio ac yn datblygu’n dda. Ysgolion Band 5 yw’r ysgolion y mae angen eu gwella fwyaf.

 

10. Yn ogystal â chynnwys data presenoldeb yn y system ar gyfer bandio ysgolion uwchradd, mae cryn dipyn o’r gwaith cychwynnol ar bresenoldeb wedi canolbwyntio ar ddatblygu a chyflwyno Fframwaith Dadansoddi Presenoldeb ac Ymddygiad. Ategwyd y broses o gyflwyno’r Fframwaith hwn â chymorth uniongyrchol sylweddol gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r gwaith, defnyddiodd swyddogion y fframwaith i gynnal gwaith dadansoddi helaeth o ddata presenoldeb ac ymddygiad pob awdurdod lleol. Lluniwyd adroddiad didwyll am ganfyddiadau’r gwaith dadansoddi hwn a fu’n sail ar gyfer gwaith ‘pwyso a mesur’ gyda phob awdurdod ar wahân. Roedd y gwaith ‘pwyso a mesur’ yn cynnwys trafod y gwaith dadansoddi, nodi problemau o ran perfformiad, ystyried y rhesymau dros dangyflawni yn ogystal â cheisio nodi enghreifftiau o arfer da ac ymyriadau llwyddiannus. Bu’r adborth gan awdurdodau lleol mewn perthynas â’r cymorth hwn yn gadarnhaol iawn.

 

11. Mae’r data yn natganiadau ystadegol absenoldeb o ysgolion 2011/12 yn dangos gwelliant sylweddol o ran cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (mae pob awdurdod yng Nghymru wedi gwella ei gyfraddau presenoldeb cynradd ac mae pob awdurdod ond un, a arhosodd yr un peth, wedi gwella ei gyfraddau presenoldeb uwchradd). Mae cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd bellach ar eu lefelau uchaf ers i Lywodraeth Cymru ddechrau casglu’r data am y tro cyntaf.

 

 

Cyfraddau absenoldeb cyffredinol mewn ysgolion uwchradd gan ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol, yn ôl sector

 

 

12. Mae’n amlwg bod cynnwys data presenoldeb fel rhan o’r system bandio ysgolion wedi cael effaith gadarnhaol. Yn 2011/12, gwellodd y gyfradd bresenoldeb ar gyfer ysgolion uwchradd 0.8 pwynt canran o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Dyma’r gwelliant unigol mwyaf a welwyd flwyddyn ar ôl blwyddyn ers saith mlynedd.

 

 

Cyfraddau absenoldeb cyffredinol mewn ysgolion cynradd gan ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol, yn ôl sector

 

­­­­­­­­­­­­­­                                                                         Canran y sesiynau ysgol a gollwyd

                                                              ­­­­­­­­­­­­­­­_____________________________________________________________________

                                                004/05     2005/06   2006/07   2007/08   2008/09   2009/10   2010/11   2011/12

Ysgolion Cynradd a Gynhelir gan yr ALl           6.9           7.5           6.9           6.7           6.8           6.9           6.7           6.1

Ysgolion Arbennig                                                12.9         11.7         10.6         9.0           10.3         10.7         12.6         10.8

Ysgolion Annibynnol                           4.3           5.1           4.5           4.7           5.3           4.9           5.3           4.9

 

Cyfanswm                                              6.9           7.5           6.9           6.7           6.8           6.9           6.7           6.2

                                                                                                Ffynhonnell: Cofnod Presenoldeb Disgyblion, Llywodraeth Cymru

(a) Nid yw’r ffigurau’n cynnwys data ar gyfer 2 ysgol annibynnol a 4 ysgol arbennig na ymatebodd i’r arolwg.

 

 

13. Fodd bynnag, nid bandio ysgolion yw’r unig ffactor sydd wedi helpu i wella cyfraddau presenoldeb yn ddiweddar, fel y gwelir yn y canlyniadau diweddar ar gyfer cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion cynradd. Mae cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion cynradd wedi gwella 0.5 pwynt canran o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Dyma’r gwelliant unigol mwyaf a welwyd flwyddyn ar ôl blwyddyn ers chwe blynedd. Mae’n amlwg fod ffocws y Gweinidog ar y maes polisi hwn, y gwaith o ddatblygu’r Fframwaith Dadansoddi Presenoldeb ac Ymddygiad, a dull gweithredu cyfarwyddol ac uniongyrchol gan swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi cael effaith.

 

 

Ymddygiad

 

14. Canolbwyntiodd y gweithgarwch mewn perthynas ag ymddygiad i raddau helaeth ar ddatblygu modiwlau hyfforddiant ym maes rheoli ymddygiad fel rhan o’r Rhaglen Feistr ar gyfer athrawon newydd gymhwyso (ANG). Disgwylir i’r modiwl gael ei gyflwyno yn ystod Tymor yr Haf 2013. Fel mesur interim, rhoddwyd £530,000 i awdurdodau lleol rhwng 2010 a 2012. O ganlyniad, cafodd dros 3,600 o athrawon, staff cymorth a swyddogion cymorth ymddygiad ALlau hyfforddiant mewn technegau rheoli ymddygiad wedi’u gwerthuso’n gadarn. Rhoddwyd £100,000 arall hefyd i ehangu mynediad i bob awdurdod lleol i hyfforddiant yn y rhaglen ymyriadau cynnar y Blynyddoedd Rhyfeddol.

 

15. Mae’r data diweddaraf ar waharddiadau yng Nghymru yn dangos bod y gyfradd gwaharddiadau parhaol a gwaharddiadau o chwe diwrnod neu fwy wedi lleihau’n raddol ers 2004/05. Mae’r gyfradd ar gyfer gwaharddiadau cyfnod penodol o bum diwrnod neu lai ar ei lefel isaf ers 2003/04.

 

 

 

Addysg Heblaw yn yr Ysgol

 

16. Nodir gweithgarwch mewn perthynas â phlant a phobl ifanc a gaiff addysg heblaw yn yr ysgol yn Adolygiad Llywodraeth Cymru o Addysg Heblaw yn yr Ysgol a’r Cynllun Gweithredu ymatebol a gyhoeddwyd yn 2011. Mae Atodiad C yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a nodwyd yn y Cynllun.

 

17. Mewn ymateb i’r adolygiad, comisiynodd Llywodraeth Cymru dîm ymchwil o Brifysgol Caeredin i ystyried y rhwystrau a ffyrdd i wella:

 

·         y broses o gynllunio a chomisiynu darpariaeth amgen ar lefel ardal ac ar gyfer yr unigolyn;

 

·         lefel y wybodaeth am blant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, a’r defnydd strategol a wneir o’r wybodaeth honno, gan ei chysylltu â’r system rheoli perfformiad ehangach ar gyfer awdurdodau lleol;

 

·         lefel y cymorth proffesiynol i’r rheini sy’n gweithio yn y sector a gwell adeiladau a chyfleusterau;

 

·         gwell trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth rhwng darpariaeth amgen, rhannau eraill o’r sector addysg ac asiantaethau a gwasanaethau eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc er mwyn hwyluso ymyriadau cynnar a sicrhau dull gweithredu integredig o ddiwallu anghenion y person ifanc.

 

18. Mae’r gwaith ymchwil ar fin cael ei gwblhau a disgwylir i’r canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad gael eu cyhoeddi yn ystod Tymor yr Haf 2013.

 

 

SYMUD YMLAEN

 

Presenoldeb

 

19. Er bod y cynnydd mewn cyfraddau presenoldeb yn galonogol, mae gwaith i’w wneud o hyd. Bydd yn bwysig sicrhau bod gan awdurdodau lleol ac ysgolion y sgiliau, yr hyder a’r gallu i gynnal y gwelliannau hyn ac adeiladu arnynt. Rydym yn cydnabod y bydd angen adnoddau ychwanegol er mwyn cynnal gwelliannau hirdymor. I’r perwyl hwn, cynigir cyfanswm o £800,000 o arian grant i helpu consortia addysg rhanbarthol i wella lefelau presenoldeb mewn ysgolion. Caiff yr arian grant newydd ei gynnig dros ddwy flwyddyn ariannol, gyda £200,000 i’w rannu rhwng y pedwar consortiwm yn 2012/13 a £600,000 yn 2013/14. Hwn fydd y cyfle cyntaf i’r consortia gydweithio’n uniongyrchol ar bresenoldeb. Yn hanesyddol, ymdriniwyd â’r mater ar lefel awdurdodau lleol.

 

20. Ym mis Mawrth 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Harweinlyfr Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan - adnodd ymarferol ar gyfer Gwasanaethau Lles Addysg yng Nghymru. Mae’r arweinlyfr yn nodi safonau a chanllawiau er mwyn sicrhau arfer mwy cyson ledled Cymru. Cynhaliwyd ymarfer ymchwil ac ymgynghori ar ddatblygu gweithlu’r Gwasanaeth Lles Addysg i ategu hyn. Ystyriodd yr ymarfer faterion a oedd yn ymwneud â chymwysterau mynediad, sefydlu, hyfforddiant a safonau, a chyflwynodd yr adroddiad ymchwil dilynol nifer o opsiynau i’w hystyried. Mae’r gwahanol opsiynau ar gyfer datblygu pecyn sefydlu ar gyfer y Gwasanaeth Lles Addysg wrthi’n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Ystyrir hefyd y posibilrwydd o ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gweithlu’r Gwasanaeth Lles Addysg, a fyddai’n nodi meincnodau clir ar gyfer perfformiad.

 

 

Ymddygiad ac Addysg Heblaw yn yr Ysgol

 

21. Awgrymodd tystiolaeth o’r Adolygiad o Addysg Heblaw yn yr Ysgol y byddai Unedau Cyfeirio Disgyblion yn fwy effeithiol pe byddai ganddynt bwyllgor rheoli sy’n herio ac yn ategu’r broses addysgu. I’r perwyl hwn, mae rheoliadau i sicrhau bod pwyllgorau rheoli yn ofyniad gorfodol o fewn UCDau wrthi’n cael eu paratoi er mwyn ymgynghori arnynt. Câi unrhyw reoliadau eu hategu gan ganllawiau cynhwysfawr ar y ffordd orau i’r pwyllgorau hyn weithredu. Yn amodol ar yr ymgynghoriad, disgwyliwn i’r rheoliadau ddod i rym ym mis Medi 2014.

 

22. Bydd argymhellion a chanfyddiadau gwaith ymchwil Prifysgol Caeredin i waharddiadau a’r ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu polisi ymddygiad Llywodraeth Cymru ac yn arbennig ei gwaith mewn perthynas â sicrhau cyfle cyfartal i bob dysgwr ni waeth ble y cânt eu haddysgu.

 

23. Ers sefydlu’r pedwar consortiwm addysg, mae’n amlwg bod angen cydweithredu mwy mewn perthynas ag ymddygiad a phresenoldeb. Bydd rhannu a chynnwys arfer da ar draws ysgolion ac awdurdodau a sicrhau y caiff data ei ddefnyddio mewn ffordd gadarn i hwyluso defnydd effeithiol o amser ac adnoddau yn allweddol o ran helpu i feithrin gallu a sicrhau gwelliannau parhaus.

 

 

 

 


 

 

ATODIAD A

 

CYNNYDD A WNAED MEWN PERTHYNAS Â’R CYNLLUN GWEITHREDU YMDDYGIAD A PHRESENOLDEB SY’N YMATEB I’R ACYP

 

Cam Gweithredu

Cynnydd

 

Presenoldeb

1

Bydd Llywodraeth y Cynulliad, mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Lles Addysg, yn llunio Fframwaith Presenoldeb i Gymru Gyfan.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2011.

2

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn diwygio’r codau a’r arferion cofnodi presenoldeb presennol ac yn eu datblygu drwy ymgynghori â rhanddeiliaid.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Cyflwynwyd codau presenoldeb newydd a chanllawiau ategol ym mis Medi 2010.

 

Ymddygiad

3

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn asesu’r prosiectau cyfiawnder adferol sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd yng Nghymru er mwyn llywio gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Mae deunyddiau dysgu arfer da ar arferion adferol mewn ysgolion bellach yn rhan o wefan Dysgu Cymru. Mae arferion adferol hefyd yn rhan o’r Modiwl Rheoli Ymddygiad sy’n rhan o’r Rhaglen Feistr ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso a gyflwynir yn ystod Tymor yr Haf 2013. Bydd y maes gwaith hwn hefyd yn parhau i ddatblygu drwy gyswllt Llywodraeth Cymru â Model Cymorth Ysgolion Uwchradd Cymunedol yr Heddlu sy’n hyrwyddo dulliau gweithredu adferol mewn ysgolion.

4

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi canllawiau i ysgolion o’r enw ‘Ymddygiad mewn Ysgolion: Dulliau Diogel ac Effeithiol o Ymyrryd’.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Cyhoeddwyd ym mis Hydref 2010.

5

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn asesu gwybodaeth a gasglwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru am waharddiadau anghyfreithlon ac yn trafod y wybodaeth honno gydag awdurdodau lleol.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Comisiynwyd Barnardo’s Cymru a Snap Cymru i gynnal astudiaeth ansoddol i waharddiadau anghyfreithlon. Cyhoeddwyd adroddiad ym mis Mehefin 2011. Ystyriwyd canfyddiadau’r adroddiad wrth ddiwygio canllawiau Llywodraeth Cymru ar waharddiadau yn ddiweddar.

 

6

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal adolygiad o’r ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol, gan gynnwys rôl unedau cyfeirio disgyblion.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Cyhoeddwyd Adroddiad a Chynllun Gweithredu ym mis Awst 2011.

7

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn comisiynu canllawiau i ysgolion ar ddefnyddio symudiadau wedi’u rheoli yn effeithiol.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Cyhoeddwyd canllawiau ym mis Mawrth 2011.

8

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn sefydlu ac yn cefnogi Rhwydwaith Timau Cymorth Ymddygiad.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd rhwydwaith llwyddiannus a bwriedir cynnal y cyfarfod nesaf ar 20 Mawrth 2013.

9

Bydd y Cynulliad yn llunio Canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Rhaglenni Cymorth Bugeiliol.

MAE’R POLISI WEDI ESBLYGU - Bwriwyd ati â’r gwaith hwn fel rhan o’r strategaeth Cwnsela mewn Ysgolion.

 

Hawliau Plant a Phobl Ifanc

10

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn llunio canllaw i’r model newydd o ddarparu gwasanaethau eiriolaeth i Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc.

MAE’R POLISI WEDI ESBLYGU - Yn 2011, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ganllawiau statudol arfaethedig. Ers hynny, mae strwythurau cynllunio partneriaethau wedi newid yn sylweddol (nid yw’n ofynnol cael Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc ar gyfer comisiynu rhanbarthol) a gafodd effaith sylweddol ar y canllawiau. Penderfynwyd felly na ddylid cyhoeddi’r canllawiau.

11

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried y posibilrwydd o ddatblygu Panel Apelio Annibynnol Cenedlaethol i ddisodli’r panelau a gaiff eu cynnal gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd.

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO - mae swyddogion o Gangen Cyfiawnder Gweinyddol Is-adran yr Ysgrifennydd Parhaol wrthi’n cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar hyn o bryd er mwyn ystyried trosglwyddo’r Panelau Apelio Annibynnol ar gyfer Gwaharddiadau o Ysgolion i Lywodraeth Cymru.

12

Bydd ymateb Llywodraeth y Cynulliad i’r ACYP yn parhau â’r drafodaeth a ddechreuwyd gyda phlant a phobl ifanc fel rhan o’r Adolygiad.

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO - Cymru yw’r gyntaf o blith gwledydd y DU i gynnwys CCUHP o fewn cyfraith ddomestig drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) Measure 2011. Pasiwyd y Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 18 Ionawr 2011 ac fe’i cymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 16 Mawrth 2011.

13

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i hyrwyddo arfer gorau o ran dulliau gweithredu gwrth-fwlio.

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO - Cyhoeddwyd canllawiau gwrth-fwlio cynhwysfawr ym mis Hydref 2011. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo wythnos gwrth-fwlio ac i gynnal y rhwydwaith gwrth-fwlio.

14

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn datblygu rôl ac adnoddau cynghorau ysgolion ymhellach.

MAE’R POLISI WEDI ESBLYGU - Mae pwyslais y polisi hwn wedi symud o gynghorau ysgolion yn unig ac yn canolbwyntio ar sut y gellir helpu plant a phobl ifanc i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan weithgar yng nghymunedau eu hysgol er mwyn eu helpu i deimlo eu bod wedi’u grymuso, wedi’u cymell, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn rhan o’r gymuned. Mae gwaith yn edrych fwy fwy ar sut y gall pob plentyn a pherson ifanc gymryd rhan ac ymgysylltu drwy gyfranogi, gan gynnwys plant iau a phobl ifanc sydd ar yr ymylon neu y mae ganddynt anghenion ychwanegol.

 

Ymyriad Cynnar

15

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn llunio ac yn dosbarthu modiwl hyfforddiant Ymyriad Cynnar i staff y Cyfnod Sylfaen.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU

16

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn asesu’r gwaith Grwpiau Anogaeth sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yng Nghymru er mwyn llywio gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Cyhoeddwyd canllawiau ym mis Tachwedd 2010


 

 

Ymyriad Cynnar

17

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn sefydlu cynllun peilot i dreialu gwahanol ddulliau o asesu a nodi Plant sy’n Agored i Niwed ar gam cynnar.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Caiff y gwersi a ddysgwyd o’r cynllun peilot eu lledaenu mewn digwyddiad i Gymru Gyfan ar 20 Mawrth 2013.

18

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn comisiynu Ymchwiliad i Broblem Ymddieithrio fel y nodir yn ymrwymiad Cymru’n Un.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Cyhoeddwyd canfyddiadau astudiaeth ymchwil ansoddol i i ymchwilio i’r rhesymau pam mae pobl ifanc yn ymddieithrio oddi wrth ddysgu ym mis Ebrill 2010.

19

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cynnwys canllawiau ar ymddygiad a phresenoldeb plant a phobl ifanc yn yr Adolygiad parhaus o’r Cynllun Gweithredu Rhianta.

MAE’R POLISI WEDI ESBLYGU - Mae pwyslais y maes polisi hwn wedi newid ffocws a chyflwynwyd gweithgarwch i ymgysylltu â rhieni drwy waith Ysgolion Bro a’r agenda Teuluoedd yn Gyntaf. Yn ddiweddar, daeth yr Adran â gwaith yn ymwneud â’r polisi ar leihau effaith amddifadedd ar ddeilliannau dysgu, y gymuned a’r teulu ynghyd. Bydd y tîm newydd yn gweithio’n agos â thimau polisi sy’n canolbwyntio ar helpu dysgwyr i oresgyn amrywiaeth o ffactorau sy’n eu hatal rhag dysgu.

 

Llythrennedd

20

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn canolbwyntio ar lythrennedd fel blaenoriaeth allweddol drwy ddod â gwahanol feysydd gwaith sy’n mynd rhagddynt ar draws yr adran ynghyd, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r ffordd o feddwl a’r arfer gorau presennol a’u bod yn effeithiol o hyd ac yn gyson â pholisïau eraill.

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO - Cyflwynwyd gweithgarwch yn y maes hwn drwy Gynllun Gweithredu 20 Pwynt y Gweinidog, yr agenda Gwella Ysgolion a’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

 

Gwaith Amlasiantaeth a Rhyngasiantaeth

21

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn treialu trefniadau gweithio amlasiantaeth ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg er mwyn gwella’r broses o ailintegreiddio plant sy’n agored i niwed i’r brif ffrwd.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Caiff y gwersi a ddysgwyd o’r cynllun peilot eu lledaenu mewn digwyddiad i Gymru Gyfan ar 20 Mawrth 2013.

22

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i gyflwyno’r Strategaeth Cwnsela mewn Ysgolion.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Caiff arian ar gyfer Cwnsela mewn Ysgolion ei brif-ffrydio gan y bydd yn rhan o’r Grant Cynnal Refeniw o 2013/14.

23

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn casglu data ar arferion presennol awdurdodau lleol drwy holiadur i lywio polisi a’r broses o dargedu adnoddau yn y dyfodol.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU


 

 

Gwaith Amlasiantaeth a Rhyngasiantaeth

24

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ysgrifennu at Gadeirydd pob Bwrdd Lleol ar gyfer Diogelu Plant yn tynnu sylw at y cyswllt rhwng ymddygiad a phresenoldeb gwael a phryderon diogelu.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU

25

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn creu gwe dudalennau ar wella ymddygiad a phresenoldeb mewn ysgolion.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Mae gwybodaeth ar gael ar we dudalennau Llywodraeth Cymru ac ar wefan Dysgu Cymru.

26

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn asesu’r trefniadau presennol ar gyfer gweithio amlasiantaeth mewn perthynas â phlant sy’n agored i niwed.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Caiff y gwersi a ddysgwyd o’r cynllun peilot eu lledaenu mewn digwyddiad i Gymru Gyfan ar 20 Mawrth 2013.

27

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn nodi’r materion presennol i’w hystyried o ran addysg ddewisol gartref.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Mae swyddogion wrthi ar hyn o bryd yn dadansoddi 550 o ymatebion i’r ymgynghoriad ar gynigion deddfwriaethol ar gyfer addysg yn y cartref.

28

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn penodi Rheolwr Prosiect i ddatblygu a chydgysylltu’r Cynllun Gweithredu ac yn ystyried cynyddu nifer y staff er mwyn rhoi’r cynllun ar waith.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU

29

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn asesu ac yn gwerthuso prosiectau partneriaeth rhwng rhieni ac ysgolion.

MAE’R POLISI WEDI ESBLYGU - Mae pwyslais y maes polisi hwn wedi newid ffocws a chyflwynwyd gweithgarwch i ymgysylltu â rhieni drwy waith Ysgolion Bro a’r agenda Teuluoedd yn Gyntaf. Yn ddiweddar, daeth yr Adran â gwaith yn ymwneud â’r polisi ar leihau effaith amddifadedd ar ddeilliannau dysgu, y gymuned a’r teulu ynghyd. Bydd y tîm newydd yn gweithio’n agos â thimau polisi sy’n canolbwyntio ar helpu dysgwyr i oresgyn amrywiaeth o ffactorau sy’n eu hatal rhag dysgu.

30

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried argymhellion yr Adolygiad o’r Fframwaith Asesu Cyffredin ac yn cymryd camau dilynol, fel y bo’n briodol.

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO - Cyfrennir at bolisïau yn ôl y gofyn.

31

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn treialu modelau ar gyfer gwella’r cysylltiadau rhwng Unedau Cyfeirio Disgyblion a darpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol arall, ac ysgolion prif ffrwd.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Caiff y gwersi a ddysgwyd o’r cynllun peilot eu lledaenu mewn digwyddiad i Gymru Gyfan ar 20 Mawrth 2013.

32

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried yr argymhellion perthnasol fel rhan o’r adolygiad nesaf o Gynlluniau Plant a Phobl Ifanc

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Cyflwynir y gwaith hwn ar sail consortia fel rhan o’r Agenda Gwella Ysgolion.


 

 

Effeithiolrwydd Ysgolion

33

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn addasu’r deunyddiau Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru ac yn eu cyfieithu.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2009

34

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymgynghori ag Estyn ar y newid i’r trefniadau arolygu yn dilyn argymhellion yr ACYP.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Mae swyddogion yn cynnal trafodaethau parhaus gydag Estyn mewn perthynas â datblygiadau polisi o ran ymddygiad a phresenoldeb.

35

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn comisiynu adroddiadau ar drefniadau pontio

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Cafwyd asesiad tystiolaeth cyflym yn ymchwilio i’r gostyngiad o ran lefelau cyrhaeddiad yn ystod y cyfnod pontio a ganolbwyntiodd yn benodol ar dlodi plant ym mis Mehefin 2010.

36

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn mireinio Proffil Gwerthuso Ysgolion y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion er mwyn canolbwyntio mwy ar agweddau sy’n ymwneud ag ymddygiad a phresenoldeb.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Cyflwynir y gwaith ar sail consortia drwy’r agenda Gwella Ysgolion. Ategir y gwaith hwn drwy ddatblygu’r Fframwaith Dadansoddi Presenoldeb ac Ymddygiad.

37

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried y posibilrwydd o benodi gweithiwr proffesiynol arweiniol ar gyfer ymddygiad a phresenoldeb drwy ehangu’r cynllun peilot ar gyfer y cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Caiff y gwersi a ddysgwyd o’r cynllun peilot eu lledaenu mewn digwyddiad i Gymru Gyfan ar 20 Mawrth 2013.

38

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn diweddaru’r Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr.

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO - Disgwylir i reoliadau hyfforddi llywodraethwyr ddod i rym ym mis Mai 2013. Diweddariadau polisi i’r Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr fel y bo’r angen.

39

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ysgrifennu at bob ysgol yn nodi nodau allweddol y Cynllun Gweithredu ac yn tynnu sylw at argymhellion penodol.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU

 

Hyfforddi a Datblygu

40

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi llunio papur mewn ymateb i argymhellion yr ACYP o ran hyfforddiant a bydd yn bwrw ati i’w gynnwys yn yr agenda hyfforddi i Gymru sy’n cael ei hadolygu ar hyn o bryd.

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO - Rhwng 2010 a 2012, rhoddwyd cyfanswm o £530K o arian grant i ALlau ei ddefnyddio ar hyfforddiant ym maes technegau rheoli ymddygiad wedi’u gwerthuso’n gadarn. Caiff Modiwl Rheoli Ymddygiad ei gynnwys yn y Rhaglen Feistr ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso o Dymor yr Haf 2013.

 

Hyfforddi a Datblygu

41

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn nodi ac yn argymell strwythur hyfforddi priodol i’r Gwasanaeth Lles Addysg.

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO - Mae’r cam gweithredu hwn bellach yn rhan o’r Cynllun Gweithredu Ymddygiad a Phresenoldeb Newydd a ddatblygwyd mewn ymateb i araith y Gweinidog Mae Addysgu’n Gwneud Gwahaniaeth.

42

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cynnig ‘sesiynau rhagflas’ i gynrychiolwyr awdurdodau lleol ar opsiynau hyfforddiant ar gyfer rheoli ymddygiad.

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Rhoddwyd £530K o arian grant i ALlau ei ddefnyddio ar hyfforddiant ym maes technegau rheoli ymddygiad wedi’u gwerthuso’n gadarn.

43

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i helpu athrawon drwy linell gymorth a gwasanaeth hyfforddi Cymorth Athrawon.

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO

44

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn dosbarthu llawlyfr rheoli ymddygiad i fyfyrwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) uwchradd a chynradd presennol ac athrawon Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC).

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU - Cyhoeddwyd y llawlyfr ar gyfer ysgolion uwchradd ym mis Hydref 2008 a chyhoeddwyd y llawlyfr ar gyfer ysgolion cynradd ym mis Gorffennaf 2012.

45

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried agweddau ar hawliau plant a phobl ifanc wrth adolygu’r fframwaith datblygiad proffesiynol i athrawon.

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO - Cymru yw’r gyntaf o blith gwledydd y DU i gynnwys CCUHP o fewn cyfraith ddomestig drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) Measure 2011. Pasiwyd y Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 18 Ionawr 2011 ac fe’i cymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 16 Mawrth 2011.


ATODIAD B

CYNNYDD A WNAED AR Y CYNLLUN GWEITHREDU YMDDYGIAD A PHRESENOLDEB NEWYDD WRTH YMATEB I FLAENORIAETHAU NEWYDD Y GWEINIDOG

HYFFORDDI A DATBLYGU

 

 

ANGEN A NODWYD

GWEITHGARWCH CYSYLLTIEDIG

CYNNYDD HYD YN HYN

Cydnabuwyd yn yr Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb fod hyfforddi a datblygu yn faes pwysig i’w wella, gan fod tystiolaeth yn awgrymu nad oedd llawer o athrawon nac aelodau eraill o staff mewn ysgolion yn teimlo eu bod yn meddu ar y sgiliau priodol i ymdrin ag ymddygiad gwael yn yr ystafell ddosbarth ac mai prin iawn oedd yr hyfforddiant yr oedd llawer ohonynt wedi’i gael mewn perthynas â’r agwedd hon fel rhan o’u hyfforddiant cychwynnol athrawon.

 

·         Datblygu modiwlau hyfforddiant ar reoli ymddygiad a phresenoldeb i’w cyflwyno drwy Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Parhaus.                                                                                                                                                            

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU                                                                                                                      

·         Caiff Modiwl Rheoli Ymddygiad ei gyflwyno yn ystod Tymor yr Haf 2013 sy’n rhan o’r Rhaglen Feistr ar gyfer athrawon newydd gymhwyso (ANG).

 

·         Mae Dysgu Cymru yn adnodd newydd ar y we a gynlluniwyd i wella safonau mewn ysgolion ledled Cymru. Mae Ymddygiad a Phresenoldeb yn rhan o’r Meysydd Allweddol i’w Gwella ar y safle. Mae panel arbenigol o ymarferwyr addysgol a gweithwyr proffesiynol wedi sicrhau ansawdd pob un o’r adnoddau ar y safle.

 

·         Ariannu hyfforddiant mewn rhaglenni rheoli ymddygiad wedi’u gwerthuso’n gadarn.                                                                                                              

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU

·         Rhoddwyd £530k i awdurdodau lleol rhwng 2010 a 2012. O ganlyniad, cafodd dros 3600 o athrawon, staff cymorth a swyddogion cymorth ymddygiad ALlau hyfforddiant mewn technegau rheoli ymddygiad wedi’u gwerthuso’n gadarn.                                                                                   Rhoddwyd £20K i Brifysgol Bangor yn 2010 ac £80K arall yn 2011 i ehangu mynediad i bob un o’r 22 awdurdod i’r rhaglen hyfforddiant ymyriad cynnar y Blynyddoedd Rhyfeddol.

 


 

HYFFORDDI A DATBLYGU

 

 

 

GWEITHGARWCH CYSYLLTIEDIG

CYNNYDD HYD YN HYN

 

 

·         Hyrwyddo’r defnydd o Arferion Adferol mewn ysgolion, gan weithio gyda’r Heddlu drwy Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan.

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO

·         Mae deunyddiau dysgu arfer da ar arferion adferol mewn ysgolion bellach yn rhan o wefan Dysgu Cymru. Mae arferion adferol hefyd yn rhan o’r Modiwl Rheoli Ymddygiad sy’n rhan o’r Rhaglen Feistr ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso a gyflwynir yn ystod Tymor yr Haf 2013. Bydd y maes gwaith hwn hefyd yn parhau i ddatblygu drwy gyswllt Llywodraeth Cymru â’r Heddlu a’u Model Cymorth Ysgolion Uwchradd sy’n hyrwyddo dulliau gweithredu adferol mewn ysgolion.

 

·         Datblygu fframwaith hyfforddi a datblygu a gyrfaoedd i’r Gwasanaeth Lles Addysg                                                       

·         Cynhaliwyd ymarfer ymchwil ac ymgynghori ar ddatblygu gweithlu’r Gwasanaeth Lles Addysg i ategu hyn. Ystyriodd yr ymarfer faterion a oedd yn ymwneud â chymwysterau mynediad, sefydlu, hyfforddiant a safonau, a chyflwynodd yr adroddiad ymchwil dilynol nifer o opsiynau i’w hystyried. Mae’r gwahanol opsiynau ar gyfer datblygu pecyn sefydlu ar gyfer y Gwasanaeth Lles Addysg wrthi’n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Ystyrir hefyd y posibilrwydd o ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gweithlu’r Gwasanaeth Lles Addysg, a fyddai’n nodi meincnodau clir ar gyfer perfformiad.

 


 

SAFONAU AC ATEBOLRWYDD

 

ANGEN A NODWYD

 GWEITHGARWCH CYSYLLTIEDIG

 CYNNYDD HYD YN HYN

Er mwyn sicrhau cysondeb o ran dulliau gweithredu, caiff perfformiad ysgolion ac awdurdodau lleol o ran presenoldeb, ymddygiad ac addysg heblaw yn yr ysgol ei asesu yn fanylach a’i gysylltu â’r dulliau newydd ar gyfer monitro safonau, gwelliant a chynnydd y mae Uned Safonau Ysgolion Llywodraeth Cymru wrthi’n eu datblygu.

 

·         Datblygu Fframwaith Dadansoddi Presenoldeb i’w ddefnyddio gan awdurdodau lleol.                                                                                                           

·         CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU                                                                                                                Datblygwyd Fframwaith Dadansoddi Presenoldeb gan ddefnyddio data ALlau ac ymgynghori â’r Gwasanaeth Lles Addysg a swyddogion gwella ysgolion. Ategwyd y broses o gyflwyno’r Fframwaith y llynedd gan gymorth uniongyrchol sylweddol gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r gwaith, defnyddiodd swyddogion y fframwaith i gynnal gwaith dadansoddi helaeth o ddata presenoldeb pob awdurdod lleol. Lluniwyd adroddiad didwyll am ganfyddiadau’r gwaith dadansoddi hwn a fu’n sail ar gyfer gwaith ‘pwyso a mesur’ gyda phob awdurdod ar wahân. Roedd y gwaith ‘pwyso a mesur’ yn cynnwys trafod y gwaith dadansoddi, nodi materion perfformiad, ystyried y rhesymau dros dangyflawni yn ogystal â cheisio nodi enghreifftiau o arfer da ac ymyriadau llwyddiannus. Cafodd y Fframwaith groeso mawr ac o flwyddyn academaidd 2012/13, cynhwyswyd y rhan fwyaf o’r data o’r Fframwaith Dadansoddi Presenoldeb yn Setiau Data Craidd Cymru Gyfan i ysgolion ac awdurdodau lleol.   

                                                                                                                                                                                             

·         Sicrhau y caiff presenoldeb ei gynnwys yn y system newydd ar gyfer bandio ysgolion ac fel rhan o’r wybodaeth a gyhoeddir gan ysgolion.                                                  

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU

·         Bu data presenoldeb yn rhan o’r mesur ar gyfer Bandio Ysgolion Uwchradd ers cyflwyno’r system yn 2011.

 

 

·         Cyflwyno proses casglu data genedlaethol ar waharddiadau ar lefel disgyblion ac ar lefel ysgolion i’w ddefnyddio at ddibenion meincnodi.                                                  

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO 

·         Casglwyd data ar waharddiadau fel rhan o’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) am y tro cyntaf yn 2012 a bydd yn un o eitemau data gorfodol i’w casglu o 2013. Ar hyn o bryd, mae’r data yn destun proses sicrhau ansawdd a dilysu a bydd yn ffynhonnell ddata werthfawr iawn y gellir ei defnyddio wrth ddatblygu polisi.

 

● Cynnal trafodaeth ‘agored a gonest’ flynyddol gydag awdurdodau lleol i drafod perfformiad o ran gwaharddiadau / presenoldeb a disgyblion sy’n derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol.                                                                                                                                                         

CWBLHAWYD Y CAM GWEITHREDU

·         Cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru â phob awdurdod lleol rhwng mis Tachwedd 2011 a mis Mawrth 2012 i drafod materion perfformiad o ran presenoldeb ac ymddygiad, gan ystyried y rhesymau dros achosion o dangyflawni yn ogystal â cheisio nodi enghreifftiau o arfer da ac ymyriadau llwyddiannus.

 


 

CYMORTH UNIGOL AC ADY

 

ANGEN A NODWYD

 GWEITHGARWCH CYSYLLTIEDIG

 CYNNYDD HYD YN HYN

Bydd gwaith datblygu yn ceisio gwella’r broses o gydgysylltu cymorth yr amrywiol asiantaethau i’r disgyblion â’r anghenion mwyaf a thrwy hynny, gyflwyno arferion mwy effeithlon a chost-effeithiol ledled Cymru.

·         Defnyddio’r wybodaeth a gesglir drwy gynlluniau ymddygiad a phresenoldeb peilot i lywio dulliau gweithredu yn y dyfodol mewn perthynas â’r cymorth unigol a ddatblygir drwy’r cynlluniau ADY peilot a’r gwaith i ddiwygio’r broses pennu datganiadau yn y dyfodol.                                                                                                             

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO

·         Caiff y gwersi a ddysgwyd o’r prosiectau peilot eu lledaenu mewn digwyddiad i Gymru Gyfan ar 20 Mawrth 2013.

·         Cyhoeddi cynllun gweithredu ar wella Addysg Heblaw yn yr Ysgol a’i roi ar waith.

·         Comisiynu gwaith ymchwil i ystyried y rhwystrau i ddarparu addysg lawn amser a’r dulliau amrywiol / lefelau effeithiolrwydd arferion awdurdodau lleol.     

 

                                                                                   

CAM GWEITHREDU YN MYND RHAGDDO                                                                                                                    ● Cyhoeddwyd yr Adolygiad a’r Cynllun Gweithredu ar Addysg Heblaw yn yr Ysgol ym mis Awst 2011.                                                     ● yn 2012, comisiynodd Llywodraeth Cymru waith ymchwil i ystyried y broses o wahardd o ysgolion yng Nghymru a’r broses o ddarparu, cynllunio a chomisiynu darpariaethau addysg i blant sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol. Disgwylir i’r adroddiad a’r argymhelliad gael eu cyhoeddi yn ystod Tymor yr Haf 2013.

 


ATODIAD C

 

CYNLLUN GWEITHREDU ADDYSG HEBLAW YN YR YSGOL - CYNNYDD A WNAED HYD YN HYN

 

Rhif

 

Cam Gweithredu

Y Wybodaeth Ddiweddaraf

Cyfathrebu a datblygu staff

1

Datblygu ffyrdd o rannu arfer da, gan gynnwys defnyddio’r dulliau sy’n cael eu datblygu drwy’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion, gwe dudalennau a’r Rhwydwaith Timau Cymorth Ymddygiad.

Yn mynd rhagddo

o   Mae adnoddau ar gael am wefan Dysgu Cymru.

o   Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cael cyfarfodydd gyda Gwasanaethau Lles Addysg awdurdodau lleol (Rhwydwaith Cymorth Ymddygiad) i ledaenu gwybodaeth ac i rannu arfer da. (Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 20 Mawrth 2013).

 

2

Sicrhau y caiff y rheini sy’n darparu Addysg Heblaw yn yr Ysgol eu cynnwys wrth ddatblygu a gweithredu elfennau newydd ar ymddygiad ac anghenion dysgu ychwanegol o fewn dulliau gweithredu newydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus ymarferwyr addysg.

 

Yn mynd rhagddo

o   Mae adnoddau ar gael ar wefan Dysgu Cymru.

o   Cynhelir cynadleddau UCDau bob blwyddyn i ledaenu gwybodaeth ac i rannu arfer da.

3

Gwella dulliau o gyfathrebu â staff UDCau yn genedlaethol, yn enwedig o ran rhannu arfer da.

Yn mynd rhagddo

o   Cynhelir cynadleddau UCDau bob blwyddyn i ledaenu gwybodaeth ac i rannu arfer da.

o   Anfonir e-gylchlythyr wythnosol Dysg a anfonir at bob ysgol yng Nghymru at UCDau.

Arian

4

Diwygio’r fformiwlâu ariannu i gynnwys disgyblion a gofrestrwyd fel disgyblion sy’n derbyn eu haddysg yn llwyr drwy gyfrwng Addysg Heblaw yn yr Ysgol.

Cwblhawyd

Mae Is Grŵp Dosbarthu’r Setliad Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnig y dylid cynnwys data ar Addysg Heblaw yn yr Ysgol o fewn y fformiwla ar gyfer dosbarthu’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer setliad 2013-14 ymlaen.

 

5

Cynnal prosiect ymchwil untro a fydd yn: ystyried y rhwystrau sy’n wynebu awdurdodau lleol wrth ddarparu addysg lawn amser i ddisgyblion sydd wedi’u gwahardd; ystyried cyfraddau ailintegreiddio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru; a llunio astudiaethau achos o arfer da.

Yn mynd rhagddo

Yn 2012, comisiynodd Llywodraeth Cymru Brifysgol Caeredin i ystyried y broses o ddarparu, cynllunio a chomisiynu’r ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol. Y bwriad yw cyhoeddi canfyddiadau ac argymhellion y gwaith ymchwil hwn yn ystod tymor yr Haf 2013. Bydd y gwaith ymchwil hwn yn llywio datblygiadau polisi er mwyn gwella ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol yng Nghymru.


 

Rhif

 

Cam Gweithredu

Y Wybodaeth Ddiweddaraf

Rheoli a threfnu

6

Gwella’r wybodaeth sydd ar gael ar blant a phobl ifanc a gaiff eu haddysgu y tu allan i ysgolion drwy sefydlu CYBLD ar gyfer Addysg Heblaw yn yr Ysgol a’i gysylltu â’r fframwaith perfformiad ehangach ar gyfer awdurdodau lleol.

Cwblhawyd

Wrth bennu’r Grant Cynnal Refeniw, mae Is Grŵp Dosbarthu’r Setliad Llywodraeth Leol wedi cytuno y dylid cynnwys disgyblion sy’n cael Addysg Heblaw yn yr Ysgol y mae ganddynt hawl i brydau bwyd ysgol am ddim (a nodir yng nghasgliad data CYBLD Addysg Heblaw yn yr Ysgol) o fewn y data ar brydau bwyd ysgol am ddim.

 

7

Parhau â’r broses gofrestru a dadgofrestru ar gyfer UCDau ac ail-gadarnhau’r sefyllfa drwy gynnal archwiliadau rheolaidd o ddarpariaeth ALlau.

Yn mynd rhagddo

Cynhelir archwiliadau o ddarpariaeth ALlau unwaith bob tua chwe mis.

 

8

Sicrhau bod pwyllgorau rheoli yn ofyniad statudol yng Nghymru a chyhoeddi canllawiau ar sut y dylent weithredu’n effeithiol.

Yn mynd rhagddo

Mae swyddogion polisi wedi rhoi cyfarwyddyd i’r Gwasanaethau Cyfreithiol lunio rheoliadau drafft i’w gwneud yn ofynnol i unedau cyfeirio disgyblion gael pwyllgorau rheoli.

 

5

Cynnal prosiect ymchwil untro a fydd yn: ystyried y rhwystrau sy’n wynebu awdurdodau lleol wrth ddarparu addysg lawn amser i ddisgyblion sydd wedi’u gwahardd; ystyried cyfraddau ailintegreiddio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru; a llunio astudiaethau achos o arfer da.

 

Yn mynd rhagddo

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Brifysgol Caeredin i ystyried y broses o ddarparu, cynllunio a chomisiynu’r ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol. Y bwriad yw cyhoeddi canfyddiadau ac argymhellion y gwaith ymchwil hwn yn ystod tymor yr Haf 2013. Bydd y gwaith ymchwil hwn yn llywio datblygiadau polisi er mwyn gwella ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol yng Nghymru.

 

Safonau a chomisiynu

9

Cyhoeddi canllawiau newydd ar gomisiynu darpariaeth amgen.

Yn mynd rhagddo

Caiff y cam gweithredu hwn ei lywio gan ganlyniadau gwaith ymchwil Prifysgol Caeredin.

10

Ystyried y cyfleoedd i ymgorffori ac ehangu’r broses o roi Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan ar waith ymhellach mewn lleoliadau Addysg Heblaw yn yr Ysgol.

 

Yn mynd rhagddo

Mae swyddogion wrthi’n trefnu cyfarfod gyda chynrychiolydd o’r Rhaglen i drafod sut y gallai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Rhaglen yn y dyfodol.

 

11

Datblygu safonau gofynnol ar gyfer darparu Addysg Heblaw yn yr Ysgol.

Yn mynd rhagddo

Bydd gwaith ymchwil Prifysgol Caeredin yn llywio datblygiadau polisi er mwyn gwella ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol yng Nghymru.

12

Gwella cywirdeb y broses o gofnodi presenoldeb ar gyfer disgyblion sydd wedi’u cofrestru mewn dau leoliad.

 

Yn mynd rhagddo

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol a chyflenwyr meddalwedd yn hyn o beth.

 


 

Rhif

 

Cam Gweithredu

Y Wybodaeth Ddiweddaraf

Safonau a chomisiynu (parhad)

13

Datblygu fframwaith meincnodi ar gyfer disgyblion sy’n cael Addysg Heblaw yn yr Ysgol, a allai gynnwys agweddau fel cyrhaeddiad, cyfraddau ailintegreiddio, gwaharddiadau a phresenoldeb.

Yn mynd rhagddo

Bydd gwaith ymchwil Prifysgol Caeredin yn llywio datblygiadau polisi er mwyn gwella ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol yng Nghymru.

14

Defnyddio’r cynlluniau ymddygiad a phresenoldeb peilot i wella dulliau gweithredu cenedlaethol ar gyfer lleihau nifer y disgyblion sy’n cael addysg y tu allan i’r ysgol; gwella lefelau ailintegreiddio plant a phobl ifanc o Addysg Heblaw yn yr Ysgol i addysg brif ffrwd mewn ysgolion; a gwella’r broses o rannu arbenigedd a gwella lefelau cyfathrebu rhwng y ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol, ysgolion arbennig ac ysgolion prif ffrwd.

Yn mynd rhagddo

O’r naw cynllun ymddygiad peilot a gyflwynwyd yn wreiddiol, parhawyd â’r pedwar cynllun peilot mwyaf addawol am flwyddyn academaidd arall. Roedd dau ohonynt (Caerdydd a Sir Fynwy) yn canolbwyntio ar wella’r cysylltiadau rhwng UCDau ac ysgolion. Caiff canfyddiadau’r cynlluniau ymddygiad peilot eu lledaenu i arweinwyr ymddygiad a phresenoldeb awdurdodau lleol mewn digwyddiad i Gymru Gyfan ym mis Mawrth 2013, ac ar ôl hynny, bydd swyddogion yn ystyried ffyrdd eraill i rannu’r dulliau gweithredu hyn ledled Cymru.

15

Nodi’n glir gyfrifoldebau ysgolion tuag at ddisgyblion sydd wedi’u cofrestru gyda hwy.

Yn mynd rhagddo

Rhoddwyd canllawiau i ysgolion, ALlau a chyflenwyr meddalwedd ym mis Mawrth 2012, ac mae gwaith yn mynd rhagddo gydag ALlau, ysgolion a chyflenwyr meddalwedd. Mae’r maes hwn yn gymhleth iawn o ganlyniad i’r amrywiaeth o ran y ddarpariaeth ar draws y 22 ALl.

16

Parhau i sicrhau y caiff anghenion dysgwyr sy’n cael Addysg Heblaw yn yr Ysgol eu hystyried yn llawn wrth ddatblygu polisïau cenedlaethol a’u rhoi ar waith.

Yn mynd rhagddo

Bydd gwaith ymchwil Prifysgol Caeredin yn llywio datblygiadau polisi mewn perthynas â’r ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol yng Nghymru.

17

Defnyddio canfyddiadau’r cynlluniau anghenion dysgu ychwanegol (ADY) peilot i ystyried y ffordd orau i ddarparu ar gyfer disgyblion ac anghenion addysgol arbennig ac i osgoi sefyllfaoedd lle y cânt eu gosod yn amhriodol mewn UCDau a lleoliadau eraill sy’n darparu Addysg Heblaw yn yr Ysgol.

Yn mynd rhagddo

Cwblhawyd cam cyntaf y cynlluniau ADY peilot a disgwylir i’r adroddiad Ymchwil Weithredu ar gyfer yr ail gam gael ei gyhoeddi maes o law. Mae swyddogion wedi gofyn am i drydydd cam o Ymchwil Weithredu gael ei gynnal. Bydd canfyddiadau’r cynlluniau peilot yn llywio datblygiadau polisi a newidiadau deddfwriaethol.